°ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼

Hysbysiad Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus Rhif 63 Tredegar

Hysbysiad Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus 

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A Thref 1990, ADRAN 257 A

PHARAGRAFF 7 O ATODLEN 14 

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL BLAENAU GWENT 

Llwybr Troed Cyhoeddus Rhif 63 Tredegar 

 GORCHYMYN GWYRO LLWYBR CYHOEDDUS 2024 

Gwnaethpwyd y gorchymyn uchod ar 17 Hydref 2024.

Effaith y gorchymyn yw cau rhan o lwybr troed 163, gan gychwyn yn (Cyf CG 313666Dn, 209806G), ar gyffordd llwybr 65 a llwybr 56, a rhedeg i gyfeiriad y gogledd-orllewin tuag at (Cyf CG 313655Dn, 209850G), a chreu llwybr troed amgen o (Cyf CG 313655Dn, 209850G), gan redeg i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain a therfynu ym Mhwynt C (Cyf CG 313687Dn, 209870G), ar balmant gorllewinol fforch fwyaf de-ddwyreiniol Cyfeirnod Stryd Unigryw 3101026 (Ffordd Fynediad Ystad Ddiwydiannol Dyffryn Onnen).

Gellir gweld copi o’r gorchymyn a map y gorchymyn yn rhad ac am ddim yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN, yn ystod oriau swyddfa arferol (dydd Llun i ddydd Gwener). Gellir cael copïau o’r gorchymyn a’r map ar gais neu drwy e-bostio rightsofway@blaenau-gwent.gov.uk

Gellir anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad e-bost uchod neu at Hywel Clatworthy, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN, i’w derbyn erbyn 29 Tachwedd 2024 fan bellaf. Nodwch ar ba sail y maent yn cael eu gwneud.

Dyddiedig 31 Hydref 2024

Kevin Kinsey

Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Seilwaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼

Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

Dogfennau Cysylltiedig