°ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼

Cyfranogiad

Ym Mlaenau Gwent, bydd gan bob plentyn, person ifanc a’u rhieni y cyfle i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd ganddynt fynediad at wasanaethau sy’n bodloni eu hanghenion a’r cyfle i lunio sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno.  

"Mae cyfranogiad yn golygu bod hawl gennyf i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred allai effeithio arnaf. Cael llais, cael dewis."  

"Proses yw cyfranogiad, nid digwyddiad, a’r canlyniad yw grymuso". (Crowley, A. 2004) 

  • Cyfranogiad Plant 

Mae plant a phobl ifanc yn cynrychioli tua thraean o boblogaeth y Fwrdeistref. Mae darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fynegi’u barn a chael gafael ar wybodaeth yn hanfodol i waith Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼.  

Mae Uwch Gyngor Plant wedi’i sefydlu ym Mlaenau Gwent i alluogi disgyblion o oedran ysgol gynradd i gael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnynt.  

Mae pob Ysgol Gynradd ym Mlaenau Gwent wedi ethol dau gynrychiolydd o’u cynghorau ysgol i eistedd ar yr Uwch Gyngor, a fydd yn cwrdd unwaith bob tymor ysgol.  

O’r 1af o Dachwedd 2006, mae’n rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael ei gyngor ysgol ei hun yn cynnwys cynrychiolwyr a ddewiswyd gan gyd ddisgyblion. Mae hyn yn sgil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed, sydd wedi cael ei lofnodi gan 192 gwlad.  

Bydd Uwch Gyngor Plant °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼ hefyd yn sefydlu cysylltiadau agor gyda Talk It Up, Fforwm Ieuenctid hynod lwyddiannus Blaenau Gwent.  

Am ragor o wybodaeth am hawliau plant, edrychwch ar rai o’r dolenni gyferbyn. 

Cyfranogiad Pobl Ifanc  

Mae’r Fforwm Ieuenctid yn ymwneud â ‘Rhoi Llais i Bobl Ifanc’. Mae’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼ i gael llais ar y materion sy’n effeithio arnynt ac i fod yn weithgar yn y broses o wneud penderfyniadau lleol. . 

Dylai pobi ifanc â diddordeb mewn ymuno â’r Fforwm Ieuenctid fod:  

  • Rhwng 11-25 oed 

  • Yn byw ym Mwrdeistref Sirol °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼ 

  • Eisiau cael rhywun i wrando ar eu barn a gwneud gwahaniaeth 

  • Eisiau dylanwadau ar benderfyniadau ar wasanaethau lleol 

  • Eisiau cwrdd â phobl newydd a dysgu pethau newydd 

  • Eisiau cael hwyl! 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

Ffôn: 01495 369610.

neu 

Cyfeiriad e-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk