Mae鈥檙 Cyngor yn gyfrifol am archwilio a symud cerbydau gadawedig ar dir cyhoeddus a heolydd cyhoeddus.
Cyfrifoldeb y perchennog yw cerbydau gadawedig ar dir preifat. Fodd bynnag, os ydynt yn peri niwsans, gall y Cyngor gyflwyno rhybudd i鈥檞 symud.
Beth yw cerbyd gadawedig?
Er nad oes diffiniad cyfreithiol o gerbyd gadawedig, gall y Cyngor ystyried cerbyd yn un gadawedig os oes ganddo un neu gyfuniad o'r nodweddion dilynol:
- Heb ei drethu heb unrhyw Geidwad Cyfredol ar gofnodion y DVLA
- Gyda difrod sylweddol, mewn cyflwr gwael neu anaddas i fynd ar y ffordd
- Wedi ei losgi'n ulw
- Heb un neu fwy o'i blatiau rhif
- Yn cynnwys gwastraff
- Wedi bod yn yr unfan am gyfnod sylweddol
- Cerbyd na ddychwelir iddo byth
Nid yw鈥檙 ffaith bod cerbyd mewn cyflwr gwael neu heb ei drethu yn unig o anghenraid yn golygu ei fod yn adawedig ac yn achlysurol gallai fod yn rhaid cynnal ymholiadau ychwanegol i sefydlu a yw鈥檙 cerbyd yn adawedig ai peidio cyn y gallwn ei symud.
Gallwch wirio os yw'r cerbyd wedi ei drethu ar hyn o bryd drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
Os yw鈥檙 cerbyd ar dir preifat mae鈥檔 rhaid i ni yn gyntaf gyflwyno rhybudd 15-niwrnod ar y perchennog. Unwaith bydd y cyfnod o 15 niwrnod yn dod i ben yna bydd y cerbyd yn cael ei drin fel pe bai ar y briffordd.
Os yw cerbyd yn peri rhwystr ar y briffordd, neu os tybir ei fod wedi ei ddwyn neu iddo fod 芒 rhan mewn trosedd, hysbyswch yr achos i Heddlu Gwent ar 01633 838 1 1 1.
Os yw鈥檙 cerbyd heb ei drethu dylech hysbysu hyn i鈥檙 DVLA.
Rhoi gwybod am gerbyd gadawedig
I roi gwybod am gerbyd gadawedig ac er mwyn i ni weithredu鈥檆h cwyn yn gyflym mae angen i ni wybod:-
- lleoliad y cerbyd
- pa mor hir mae e wedi bod yno
- gwneuthuriad a lliw
- y rhif cofrestru
- os oes ganddo os yw wedi ei drethu ac os felly pryd y daw i ben
- cyflwr cyffredinol y cerbyd
Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, 芒
I roi gwybod am gerbyd gadawedig ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556聽
Os oes rhybudd wedi ei osod ar eich cerbyd neu i hawlio cerbyd, ffoniwch, os gwelwch yn dda (01495) 357813.
聽cysylltwch, os gwelwch yn dda, 芒鈥檙 DVLA ar 08000 325 202.