澳门六合彩开奖记录

Ymgyrch farchnata arloesol ar drywydd lluniau da yn y Cymoedd

Mae ymgyrch gyffrous newydd gan brosiect 鈥榊 Cymoedd a Newidiodd y Byd鈥 ar fin cyrraedd safleoedd treftadaeth ddiwydiannol yn y Cymoedd. Ei nod yw cymryd ymwelwyr ar antur gan ddefnyddio byrddau tynnu lluniau a'r cyfryngau cymdeithasol i danio eu diddordeb mewn 鈥榓rloeswyr鈥 o'r Chwyldro Diwydiannol.  

Mae'r ymgyrch 鈥楢rloeswyr鈥 wedi ei seilio ar fywydau tri chymeriad dychmygol ac mae'n dangos disgwyliadau ac ysbryd anturus y cannoedd o filoedd o bobl oedd yn wynebu tlodi a diweithdra ac a symudodd yn gyflym i'r ardal yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn hanes Cymru.   

Dyma esboniad y Cynghorydd Lewis Jones, Aelod Gweithredol dros Adfywio yng Nghyngor Torfaen:   

鈥淩oeddem eisiau gwneud rhywbeth fyddai'n cyfuno gyda 鈥楤lwyddyn Antur a Blwyddyn Chwedlau鈥 Croeso Cymru drwy greu llwybrau hwyliog a chreadigol sy'n cysylltu 芒'r bobl a ddaeth i'n hardal yn ystod y Chwyldro Diwydiannol 鈥 anturiaethwyr go iawn a adawodd eu hen fywydau i geisio bywyd gwell yn ein Cymoedd. Dyma oedd gwir arloeswyr eu cyfnod!鈥   

Mae'r llwybrau sydd ar gael i'w lawrlwytho wedi eu lledaenu'n ddaearyddol ar draws y Cymoedd.
Yn nwyrain y Cymoedd, cawsom gyfarfod 芒 Tim, bachgen o Iwerddon sydd wedi dod draw gyda'i deulu ac wedi ymgartrefu i ddechrau ym Mlaenafon. Yn y canolbarth rydym yn cwrdd 芒 Hetty sy'n teithio o gefn gwlad Caerfyrddin i weithio fel morwyn i'r teulu Crawshay yng Nghastell Cyfarthfa; ac yn y gorllewin, rydym yn cwrdd 芒 Jack, bachgen o Gernyw sydd wedi teithio draw gyda'r mwyn copr i'r dociau yn Abertawe.   

Wrth i chi ddechrau dilyn y llwybrau mae'r hwyl yn cychwyn go iawn, fel y mae Ruth Taylor-Davies, cydlynydd y prosiect, yn esbonio:     

鈥淎r dri safle ar bob llwybr bydd cyfle i chi 鈥榞wrdd鈥 a chael tynnu eich llun gyda'n cymeriad ar y cam hwnnw yn ei hanes, diolch i'n byrddau tynnu lluniau a gomisiynwyd yn arbennig. Felly, yn y Safle Treftadaeth y Byd byddwch yn cwrdd 芒 Tim pan oedd yn fachgen ifanc ond, erbyn diwedd y llwybr, mae mwy nag 20 mlynedd o weithio'n galed wedi dweud arno. Yn ychwanegol at hynny, cewch eich annog i ddweud sut y credwch y dylai stori eich cymeriad orffen, drwy ymweld 芒 safleoedd eraill a bod mor greadigol ag y dymunwch.鈥 Ychwanegodd: 鈥淢ae syniad y llwybrau yma'n hynod o gyffrous. Teimlwn ein bod wedi canfod rhywbeth y bydd pobl yn ei fwynhau'n fawr ac yn cael hwyl go iawn ag o, oherwydd mae'n cyd-fynd 芒'r ffasiwn o rannu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal 芒 phoblogrwydd y 鈥榖wth tynnu lluniau鈥 a welwch mewn priodasau a phart茂on.鈥     

Y dulliau creadigol a fabwysiadwyd gan Croeso Cymru a Cadw yn ystod Blwyddyn Antur Cymru
sydd wedi ysbrydoli'r rhain ac mae t卯m y prosiect yn credu eu bod wedi rhoi naws fodern i syniad traddodiadol y llwybrau treftadaeth ddiwydiannol. Y gobaith yw y byddent yn helpu i roi hwb i'r atyniadau treftadaeth lleol yn ystod misoedd y gaeaf sy'n tueddu bod yn dawelach na'r haf.       

I lawrlwytho'r llwybrau, ewch i: www.visitblaenavon.co.uk/TVTCTW/Pioneers; Dilynwch ni ar Facebook (The Valleys That Changed The World / Y Cymoedd a Newidiodd y Byd) neu ar Twitter @TVTCTW

Yn arwain prosiect 鈥榊 Cymoedd a Newidiodd y Byd鈥 mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar ran partneriaid o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac mae wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Croeso Cymru.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda 芒 Ruth ar 0786 2218066 / lethaconsultancy@gmail.com