Rhoddwyd caniat芒d cynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg newydd, fydd yn cynnwys darpariaeth gofal plant, yn Chartist Way, Tredegar.
Mae鈥檙 ysgol 鈥榚gin鈥 210 lle yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu cyfleoedd addysg Gymraeg yn y Fwrdeistref Sirol.
Caiff yr ysgol ei datblygu yn unol 芒 safonau a amlinellir yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Sicrhaodd y Cyngor 拢10.4 miliwn o gyllid cyfalaf drwy gynlluniau Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf Gofal Plant Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gydag adeiladu鈥檙 ysgol.
Bydd yr ysgol yn galluogi鈥檙 Cyngor i ateb y galw cynyddol am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Bydd safle鈥檙 ysgol hefyd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, ardal chwarae coedwig, perllan a dolydd blodau gwyllt. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwybodol o hinsawdd gyda phaneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor:
鈥淩wy鈥檔 falch fod y pwyllgor cynllunio wedi cefnogi ein cynllun i adeiladu ysgol Gymraeg newydd drwy roi caniat芒d cynllunio. Mae gennym ymrwymiad cryf i hyrwyddo twf y Gymraeg yn unol 芒 gweledigaeth gyffrous Llywodraeth Cymru a rydym yn gweithio i ddarparu mwy o gyfleoedd yn y Fwrdeistref Sirol ar gyfer rhieni a gofalwyr sy鈥檔 dymuno cael addysg Gymraeg i鈥檞 plant.鈥
Bydd yr ysgol newydd yn dechrau fel 鈥榙arpariaeth egin鈥 gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i gynnwys darpariaeth ar gyfer pob oed erbyn 2029.
听