Mae鈥檙 Bartneriaeth Twf Economaidd (EGP) wedi dadlennu鈥檌 Chynllun Twf Diwydiannol ac Economaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru i wella cynhyrchiant a llewyrch ledled De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol.
Mae鈥檙 Cynllun yn ymateb i鈥檙 heriau dynamig y bydd y rhanbarth yn eu hwynebu dros yr ugain mlynedd nesaf.
Mae鈥檙 Cynllun yn golygu:
- Canfod cryfderau a gwendidau鈥檙 rhanbarth a manteisio hyd yr eithaf ar ei gyfleoedd.
- Canfod a datblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i ddod 芒 budd i fusnesau a chreu gweithlu hynod fedrus, sydd wedi鈥檜 cymell yn dda ac sy鈥檔 flaengar eu syniadau.
- Galluogi seilwaith priodol i wella cysylltedd, yn ddigidol ac yn ffisegol, fel ei gilydd.
- Datblygu cyfleoedd i annog arloesi ac entrepreneuriaeth.
- Creu Cronfa Buddsoddi mewn Arloesi sy鈥檔 creu cyfleoedd i fusnesau gystadlu a chyfrannu tuag at dyfu nifer y swyddi a chreu gwelliant yn y metrig Gwerth Ychwanegol Gros lleol.
Mae鈥檙 Cynllun yn adeiladu ar y fframwaith cyffredinol ar gyfer gweithredu a amlinellwyd gan adroddiad y Comisiwn Twf a Chystadleuaeth, a gyflwynodd ei ganfyddiadau ym mis Rhagfyr 2016.
Dywedodd Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd wedi datblygu鈥檙 Cynllun:
鈥淐aiff y Cynllun ei arwain gan ddiwydiant ac fe鈥檌 datblygwyd gan fusnesau. Mae鈥檔 amlygu rhai o faterion cynhyrchiant economaidd y rhanbarth, ac mae鈥檔 cadarnhau prosiectau y gellir eu haddasu ac a arweinir gan arloesedd, sy鈥檔 angenrheidiol i greu twf cynaliadwy a llewyrch cynhwysol.
鈥淢ae鈥檔 eiriol dros gysylltedd byd-eang drwy fuddsoddi mewn systemau trafnidiaeth o鈥檙 radd flaenaf, tai, seilwaith digidol, a sgiliau y mae modd cael cyflogaeth ohonynt er mwyn cyflawni鈥檌 amcanion cystadleuol o greu swyddi, cael gwell Gwerth Ychwanegol Gros a throsoli buddsoddiadau bytholwyrdd.
鈥淔el gydag unrhyw gynllun, fe bennir ei lwyddiant gan weithredu ac arweinyddiaeth, sy鈥檔 gofyn i bob rhanddeiliad ymrwymo i鈥檞 gyflenwi, ac uchelgais o greu rhanbarth economaidd ffyniannus a chadarn sy鈥檔 angenrheidiol i gynnal llewyrch cenedlaethau鈥檙 dyfodol i ddod.鈥
鈥淢ae鈥檔 hanfodol bod gan y cynllun hwn a鈥檙 rhanbarth hwn welededd a dylanwad y tu allan i Gymru, ac yn wir, yn fyd-eang. Daw鈥檔 cystadleuaeth o dramor ac o鈥檙 rhanbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig, fel ei gilydd.
鈥淢ae cydlyniant ymysg yr holl randdeiliaid yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Mae hyn yn cynnwys polisi cydgysylltiedig rhanbarthol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, partneriaethau sector cyhoeddus-preifat, cydweithredu cyfatebol 芒 darparwyr addysg ac ymgysylltu 芒 mentrau cymdeithasol. Gyda鈥檙 partneriaethau hyn, mae鈥檙 Cynllun yn bwriadu gwella sgiliau presennol a datblygu sgiliau newydd fydd yn gyson 芒 sectorau ffocws y rhanbarth.
鈥淔elly, fe fyddwn yn hyrwyddo ac yn ymgysylltu 芒 rhanddeiliaid, nid yn unig yng Nghymru ond ymhellach i ffwrdd hefyd.鈥
Cydweithredodd y Bartneriaeth Twf Economaidd yn agos 芒 Chabinet y Fargen Ddinesig drwy gydol y broses, ac mae wedi llwyr gymeradwyo鈥檙 Cynllun terfynol.
Gan adeiladu ar gyfle a mantais gystadleuol y rhanbarth o fewn yr economi, mae鈥檙 Cynllun yn targedu鈥檔 strategol sectorau i gael cymorth i dyfu a ffynnu. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys, ond heb fod wedi鈥檜 cyfyngu i:
- Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a鈥檜 cadwyn gyflenwi;
- Deallusrwydd Artiffisial, Data a Seiberddiogelwch;
- Technoleg Ariannol;
- Economi Creadigol;
- Gwyddorau bywyd 鈥 yn fwy penodol, yr is-sectorau diagnosteg a dyfeisiadau meddygol;
- Peirianneg Trafnidiaeth 鈥 cerbydau, trenau ac awyrennau.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eisoes wedi dechrau buddsoddi yn y diwydiannau hyn, gan ddarparu 拢38.5 miliwn i gynorthwyo clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, a leolir yn Ne-ddwyrain Cymru.
Mater hanfodol arall y mae鈥檙 Cynllun Twf Economaidd yn canolbwyntio arno yw seilwaith dibynadwy sy鈥檔 cysylltu鈥檙 rhanbarth, nid yn unig ledled y rhanbarth ond hefyd y tu hwnt iddo. Drwy wneud y rhanbarth yn fwy hygyrch, fe all y Cynllun gynorthwyo cymunedau o amddifadedd ac ynysig sydd ar hyn o bryd wedi鈥檜 cysylltu鈥檔 wael, ac fe all annog twf atgynhyrchiol. Tanategir seilwaith y rhanbarth yn y dyfodol gan Fetro De Cymru gwerth 拢734 miliwn, a gyllidir 芒 buddsoddiad y Fargen Ddinesig.
Mae鈥檙 Bartneriaeth Twf Economaidd hefyd wedi cael y gorchwyl o gynllunio Fframwaith Buddsoddi a Seilwaith fydd yn rhoi sylw i dri o flaenoriaethau buddsoddi dynodedig a chydgysylltiedig, sef arloesi, seilwaith a heriau diwydiannol symudedd, poblogaeth sy鈥檔 heneiddio, Deallusrwydd Artiffisial a thwf economaidd a arweinir gan heriau. Mae hon yn ymagwedd ddyfeisgar sy鈥檔 cydnabod yr angen i wella鈥檙 amgylchedd busnes o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan wneud y rhanbarth yn gystadleuol ac yn werth buddsoddi ynddo, gyda ffocws byd-eang, yn fewnol ac yn allanol.
Dywedodd Mr Holmes: 鈥淢ae鈥檔 rhaid gosod pwyslais ar ennill buddsoddiad rhanbarthol newydd yn gystadleuol drwy鈥檙 strategaeth ddiwydiannol drwy鈥檙 Deyrnas Unedig i gyd, a chyllideb gyflenwi flynyddol gyfunol UKRI ar gyfer hynny yw 拢6.4 biliwn. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru lefelau isel o gynrychiolaeth yn y man hwn. Mae arnom angen datblygu proffil a phresenoldeb mewn ffyrdd cadarnhaol. Ni wna siarad 芒鈥檙 un bobl, a dweud wrth y rheiny sydd eisoes yn gwybod y stori, gyflawni hyn. Mae arnom angen cyrraedd cynulleidfa ehangach i hyrwyddo鈥檔 rhanbarth sy鈥檔 ddeniadol i fuddsoddi ynddo.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chadeirydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
鈥淢ae鈥檙 Cabinet Rhanbarthol yn hynod fodlon ar sut mae鈥檙 Cynllun Twf Economaidd wedi鈥檌 ddatblygu, ac mae鈥檔 croesawu鈥檙 ffaith ei fod yn gwneud mwy na dim ond creu swyddi. Mae鈥檔 ystyried y pedair agwedd gyfunol fydd yn ein helpu i dyfu鈥檙 economi: tai, trafnidiaeth, sgiliau a swyddi, ac yn ei dro, fe fydd hynny鈥檔 creu buddion economaidd ledled y rhanbarth."
鈥淕an weithio 芒 Llywodraeth Cymru a chael ein harwain gan ein Partneriaeth Twf Economaidd, mae鈥檔 rhaid inni gynllunio ar gyfer byd lle nad oes yna ragor o fargeinion dinesig a dim rhagor o gyllid yr Undeb Ewropeaidd.鈥
Gellir cyrchu鈥檙 cynllun llawn ar wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn yma.