澳门六合彩开奖记录

‘Pobl Gyffredin’ yw thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2023

Cynhelir Diwrnod Coffa鈥檙 Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn, dyddiad rhyddhau Auschwitz-Birkenhau, gwersyll marwolaeth mwyaf y Naz茂aid. Mae鈥檔 ddiwrnod rhyngwladol i gofio鈥檙 chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ynghyd 芒 miliynau o bobl eraill o grwpiau eraill a laddwyd dan erledigaeth y Naz茂aid ac mewn achosion eraill o hil-laddiad arall a ddilynodd yn Cambodia, Bosnia a Darfur. Mae鈥檔 achlysur i bawb i ddysgu, cofio a myfyrio.

鈥楶obl Gyffredin鈥 yw thema Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost eleni ac mae鈥檔 rhoi sylw i鈥檙 bobl gyffredin a adawodd i hil-laddiad ddigwydd, y bobl gyffredin a gyflawnodd hin-laddiad a鈥檙 bobl gyffredin a gafodd eu herlid. Mae hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut y gallai pobl gyffredin, tebyg i ni ein hunain, efallai chwarae mwy o ran nag y medrem ddychmygu mewn herio rhagfarn heddiw.

Mae ymchwilio thema Pobl Gyffredin yn edrych ar rai categor茂au penodol (cyfllawnwyr, rhai oedd yn bresennol, achubwyr). Mae鈥檔 nodi nad yw pobl bob amser yn dod yn daclus o fewn un o鈥檙 categor茂au hyn, a bod ystod o ymatebion o fewn categor茂au, o fewn sectorau, swyddi a chyfrifoldebau i鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd o鈥檜 cwmpas, fel y dengys enghraifft gweithwyr rheilffordd yn yr Holocost:

Enghraifft: Pobl Gyffredin 鈥 Gweithwyr rheilffordd yn ystod yr Holocost

鈥楩el plentyn pum mlwydd oed, gallwn sefyll ar ymyl y llecyn lle鈥檙 oedd y trenau鈥檔 cael eu llwytho. Roedd pobl fel sard卯ns yn y tryciau pren hynny.

A鈥檙 bobl oedd yn eu llwytho 鈥 dynion rheilffordd oedden nhw, doedden nhw ddim yn edrych yn wahanol iawn i鈥檙 dynion rheilffordd sy鈥檔 edrych ar fy nhocynnau y dyddiau yma 鈥 roeddent yn edrych fel pobl gyffredin鈥. Dr Martin Stern, MBE, goroesydd yr Holocost

Mae Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost yn amser pan geisiwn ddysgu gwersi鈥檙 gorffennol a sylweddoli nad yw hin-laddiad yn digwydd ar ei ben ei hun 鈥 mae鈥檔 broses gyson a all ddigwydd os na chaiff gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb eu gwirio a鈥檜 hatal.

Fe wnaeth yr Holocost fygwth ffabrig gwareiddiad, ac mae鈥檔 rhaid gwrthod hin-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn aml yn teimlo鈥檔 fregus ac ni allwn laesu dwylo. Hyd yn oed ym Mhrydain, mae鈥檔 rhaid i bawb ohonom herio rhagfarn ac iaith casineb.

I ddangos ymrwymiad y Cyngor i goffau Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost, caiff cloc Tredegar a Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy eu goleuo i ddangos gweithred o undod a chefnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor 澳门六合彩开奖记录: 鈥淩wy鈥檔 falch i ddweud y bydd 澳门六合彩开奖记录 yn coffau Diwrnod Rhyngwladol Cofio鈥檙 Holocost. Byddwn yn goleuo cloc tref Tredegar a Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg ein cynghorwyr, staff a phartneriaid ddydd Gwener 27 Ionawr er mwyn cofio yr erchyllterau a ddigwyddodd, dangos undod a chefnogaeth a bod yn oleuni yn y tywyllwch mewn ymateb i鈥檙 anfadwaith hwn.鈥

Gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio鈥檙 Holocost:聽

Tagiau Cyfryngau Cymdeithasol - #HMD #Council #OrdinaryPeople聽 #DCH #yCyngor #PoblGyffredin聽聽聽