Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae gr诺p Cyngor, Canllawiau ac Arbenigedd Iechyd y Cyhoedd (PHAGE), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi cyflwyno tystiolaeth i'r pedwar Prif Swyddog Meddygol ynghylch hyd y cyfnod hunanynysu ar gyfer achosion o COVID-19 a'r potensial i leihau'r cyfnod hwnnw drwy ailadrodd profion dyfeisiau llif unffordd (LFD).
Cynghorwyd bod cyfnod o 7 diwrnod o hunanynysu ynghyd 芒 dau brawf llif unffordd negatif yn cael fwy neu lai yr un effaith amddiffynnol i bobl 芒 COVID-19 芒 chyfnod o 10 diwrnod o hunanynysu heb brawf llif unffordd. Mae鈥檙 dull newydd yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf am ba mor hir y mae achosion o COVID-19 yn trosglwyddo鈥檙 feirws i eraill. Mae hefyd yn ffordd o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a chadwyni cyflenwi dros y gaeaf gan gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
Daw'r cyngor hwn yng nghyd-destun y niferoedd o achosion sy'n cynyddu鈥檔 gyflym a'r materion staffio a welir ar draws y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Felly, rwyf wedi penderfynu ar sail cyngor iechyd y cyhoedd bod y cynnydd bach yn y risg y gallai pobl heintus gael eu rhyddhau o fod yn hunanynysu yn cael ei gydbwyso gan y manteision cymdeithasol ehangach a ddaw yn sgil lleihau鈥檙 cyfnod hunanynysu ynghyd 芒鈥檙 potensial i鈥檙 polisi hwn gynyddu鈥檙 parodrwydd i gydymffurfio 芒 chanllawiau hunanynysu.
O 31 Rhagfyr, os yw person yn hunanynysu fel achos positif ar hyn o bryd neu os yw person yn profi'n bositif am COVID-19, mae鈥檔 rhaid iddynt hunanynysu am saith diwrnod. Ar ddiwrnod chwech o hunanynysu dylent gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. Os yw canlyniadau'r ddau brawf yn negatif, mae'n debygol nad ydynt yn heintus.
Fodd bynnag, os yw'r naill brawf neu'r llall a gymerir ar ddiwrnod chwech neu ddiwrnod saith yn bositif dylai鈥檙 person barhau i hunanynysu hyd nes y c芒nt ddau brawf llif unffordd negatif neu tan ddiwrnod 10 - pa un bynnag sydd gyntaf. Mae canlyniad positif ar ddiwrnod chwech neu ddiwrnod saith yn dangos bod y person yn debygol o fod yn heintus o hyd ac felly mewn perygl o drosglwyddo coronafeirws i eraill.
Mae'n hanfodol bod pawb yn hunanynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd yn y ffordd a gynghorwyd i sicrhau eu bod yn amddiffyn eraill rhag y risg o gael eu heintio.
Gallwch gael profion llif unffordd drwy:
- Eu casglu o fferyllfa neu bwynt casglu lleol: Dewch o hyd i'ch fferyllfa neu bwynt casglu agosaf a鈥檙 oriau agor (ar nhs.uk).
- Eu casglu o weithleoedd neu leoliadau addysg, sydd 芒 threfniadau i ddarparu offer profi i staff a dysgwyr.
- Archebu ar-lein i鈥檞 cludo i鈥檙 cartref: Archebu pecynnau prawf llif unffordd cyflym i鈥檞 defnyddio gartref ar GOV.UK. Gallwch archebu un pecyn profi yn y cartref (saith prawf) ar y tro. Bydd yn cymryd un i ddau ddiwrnod i鈥檞 cludo i鈥檙 cartref.
Bydd newidiadau gweithredol i'n system olrhain cysylltiadau yn cael eu gwneud cyn gynted 芒 phosibl er mwyn sicrhau bod achosion positif yn derbyn y cyngor a'r arweiniad priodol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd ar unwaith gan fod newidiadau i'r system yn cymryd amser i鈥檞 rhoi ar waith.
Mae Ap COVID-19 y GIG yn parhau i gefnogi ein system Profi Olrhain Diogelu a chaiff ei ddiweddaru gyda gwybodaeth i ddefnyddwyr yr ap i'w hysbysu am y newidiadau yng Nghymru.
Rydym yn ystyried goblygiadau'r newidiadau hyn ar gyfer ein Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysua byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ariannol a chymorth ehangach i'r sawl sydd angen cymorth i hunanynysu, gan gynnwys cael gafael ar fwyd a nwyddau fferyllol.