澳门六合彩开奖记录

Myfyrwyr Abertyleri yn gwneud argraff gyda datrysiad i ostwng gwastraff bwyd

Gwnaeth tri o ddysgwyr Blwyddyn 10 o Gymuned Ddysgu Abertyleri argraff enfawr ar y panel yn Her Arloesedd 鈥楧yfodol Cynaliadwy鈥 Cysylltu Athrawon STEM yr Academi Beirianneg Frenhinol gyda鈥檜 ap a gynlluniwyd i helpu gostwng gwastraff bwyd byd-eang.

Gwnaethant gymaint o argraff fel y cafodd y myfyrwyr eu gwahodd i fynychu digwyddiad dathlu Rhaglen Peirianneg Cymoedd Cymru yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Dim ond 10 ysgol o bob rhan o Brydain a gafodd eu gwahodd.

Rhoddodd y myfyrwyr gynnig yng nghystadleuaeth Dyfodol Cynaliadwy: Her Arloesedd yr Academi Beirianneg Frenhinol, gyda phedwar categori i ddewis o鈥檜 plith i ddatrys problem byd go iawn. Gwnaethant ddewis dylunio ap a fyddai鈥檔 helpu i ostwng gwastraff bwyd byd-eang. Y syniad oedd creu ap a fyddai鈥檔 mesur yn gywir faint o bryd neilltuol y byddech ei angen yn seiliedig ar eich mesuriadau personol a gweithgaredd dyddiol a allai gyfathrebu gyda bwytai i greu dogn o鈥檙 maint priodol o鈥檙 pryd bwyd.

Mae Prosiect Peirianneg Cymoedd Cymru (WVEP) yn gynllun a ddatblygwyd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Panasonic a鈥檙 Academi Beirianneg Frenhinol i greu canolfannau rhagoriaeth mewn addysgu STEM a gwella cyfleoedd dysgu yng nghymoedd de Cymru. Derbyniodd y rhaglen gyllid o Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.

Bu鈥檙 myfyrwyr yn llwyddiannus yng nghylch cyntaf y gystadleuaeth pan gawsant eu gwahodd i gael eu cyfweld am eu syniadau gan beirianwyr. Roeddent wedyn yn llwyddiannus yn mynd trwodd i ail gam y gystadleuaeth gan ennill trip i Lundain, ond yn anffodus nid oedd modd iddynt fynd oherwydd bod arholiadau鈥檔 cael eu cynnal. Fodd bynnag byddant yn mynychu dathliadau diwedd blwyddyn WVEP i arddangos eu gwaith a rhai gweithgareddau eraill a wnaeth yr ysgol fel rhan o鈥檌 chlwb STEM.

Dywedodd Erin Macdonald, Athrawes Gwyddoniaeth yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri:

鈥淩ydym mor falch o鈥檔 dysgwyr yma yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri am y gamp enfawr hon. Mae鈥檙 argyfwng hinsawdd ym rhywbeth y dylai pawb ohonom bryderu amdano a bydd angen datrysiadau gwirioneddol flaengar i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau. Mae鈥檔 wych fod cenedlaethau鈥檙 dyfodol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cynlluniau fel hyn a medru gweithio fel t卯m i gael syniadau gwych i broblemau byd go iawn.鈥

Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri yn gweithio鈥檔 agos gyda gwahanol drefnwyr STEM drwy Flaenau Gwent a hefyd gyda chwmn茂au unigol i alluogi dysgwyr i gael mwy o fynediad i gyfleoedd a phrofiadau bywyd go iawn. Mae dysgwyr ar draws Blynyddoedd 7-11 wedi cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau STEM tebyg i ddylunio awyren, peirianneg a datblygu peiriannau cod. Mae hefyd glwb ar 么l ysgol ar gyfer y dysgwyr hynny sydd eisiau ymchwilio STEM ymhellach.

Y nod yw dangos i ddysgwyr sut y gall astudio pynciau STEM, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, arwain at yrfaoedd STEM cyflog uchel. Mae hyn yn sylfaenol i uchelgeisiau鈥檙 Cwricwlwm i Gymru newydd.