A hwythau dan arweiniad Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru, y gwobrau yw鈥檙 unig gynllun i ddathlu cyflawniadau sector trafnidiaeth a logisteg Cymru, gan wobrwyo arloesedd ac arferion gorau a ganfuwyd mewn busnesau preifat, cyrff y sector cyhoeddus, a鈥檙 cyflawniadau a wnaed gan unigolion yn y diwydiant.
Enillodd Bwrdd Prosiectau Cyllido Bysiau De-ddwyrain Cymru Wobr Menter Cludiant Teithwyr, a gyflwynwyd gan Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a鈥檙 Seilwaith. Y cynllun buddugol, sef partneriaeth rhwng 10 awdurdod lleol a gweithredwyr yn ne-ddwyrain Cymru, yw鈥檙 cyntaf yng Nghymru i fod wedi cysylltu talu Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau 芒 darparu safonau o ansawdd a gynlluniwyd i wella rhwydwaith a gwasanaeth bysiau鈥檙 rhanbarth.
Mae鈥檙 cynllun arloesol yn golygu taliad ariannol ar gyfer pob un gwasanaeth yn seiliedig ar y safon y mae鈥檔 eu cyflawni. Dechreuodd gydag asesiad llawn o鈥檙 gwasanaeth bysiau drwy arolygon teithwyr, gan adolygu elfennau, yn cynnwys oed y cerbyd, lefel ei allyriadau a chyfarpar cyrraedd cyrchfan, y defnydd o beiriannau tocynnau sy鈥檔 cydymffurfio ag ITSO a chyfranogiad o gynlluniau tocynnu cenedlaethol, lifrai gyrwyr a鈥檜 hymwybyddiaeth o anabledd, polisi cwynion ac argaeledd gwybodaeth am y gwasanaeth. Dyfarnwyd safon efydd, arian neu aur i bob cwmni bysiau, gan gael taliad wrth y cilometr, oedd yn adlewyrchu鈥檙 safon, gyda鈥檙 cyfle i wella dros amser.
Dywedodd y Dr Andrew Potter, Cadeirydd Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru: 鈥淕allai Bwrdd Prosiectau Cyllido Bysiau De-ddwyrain Cymru fod wedi dewis datrysiad hawdd ond dewisodd weithio tuag at oresgyn gwir heriau drwy ddull 鈥榦鈥檙 brig i lawr鈥. Gan ymgorffori barn llawer o randdeiliaid, nid oedd arnynt ofn oedi tan iddynt ei gael yn gywir, ac fe鈥檜 gwobrwywyd 芒 llwyddiant. Mae鈥檔 batrymlun y gellid ei ddefnyddio ledled Cymru ac mae鈥檔 enillydd teilwng o Wobr Trafnidiaeth Genedlaethol Cymru.鈥
Dywedodd Charlie Nelson, Cadeirydd Bwrdd Prosiectau Cyllido Bysiau De-ddwyrain Cymru a Rheolwr Trafnidiaeth yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf: 鈥淗offwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y prosiect am eu cefnogaeth. Ni fyddai鈥檙 wobr hon wedi鈥檌 hennill heb ymglymiad yr awdurdodau lleol, y cwmn茂au bysiau a rhanddeiliaid eraill yn ne-ddwyrain Cymru, a weithiodd gyda鈥檌 gilydd i gyd mewn partneriaeth i ganfod, i gytuno ar ac i ddarparu nifer o fuddion pendant i deithwyr sydd, yn ystod y 18 mis diwethaf, wedi galluogi codi safonau鈥檔 gynyddrannol.鈥