°ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼

Lansio canolfan gwaith a menter a gynlluniwyd i hybu busnes ym Mlaenau Gwent

Mae canolfan gwaith a menter newydd, a gynlluniwyd i roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl leol i ddechrau a thyfu eu busnesau, wedi agor yng Nglynebwy, °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼. Ariannwyd yr adeilad gan Lywodraeth Cymru - Cymoedd Technoleg ac ariannwyd y gwaith ffitio mewnol gan Biler Cefnogi Busnes Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Wedi'i leoli ar Lime Avenue, Glynebwy, mae Gwaithaur wedi cael ei lansio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼ (GBSBG) a bydd yn ofod i weithwyr llawrydd, gweithwyr a sylfaenwyr weithio ochr yn ochr â'i gilydd, gan feithrin cymuned gefnogol ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach.

Mae Gwaithaur yn adeilad modern gydag eco-gymwysterau uchel. Mae wedi’i ardystio gan BREEAM sy'n mesur safonau perfformiad adeilad gan sicrhau ei fod yn bodloni nodau cynaliadwyedd yr awdurdod a Chymru.

Wedi'i weithredu gan dîm menter Busnes ac Arloesi'r Cyngor, mae gan y gweithle modern nifer o swyddfeydd bach a chanolig, gofod cydweithio a sawl ystafell gyfarfod.

Bydd y gofod hefyd yn cynnig mynediad i'w aelodau at gefnogaeth un-i-un, mentora, gweithdai busnes a digwyddiadau rhwydweithio trwy ei Dîm Busnes ac Arloesi, mewn partneriaeth â’r Arbenigwyr cydweithio a busnesau bach Town Square Space Ltd.

Mae TownSq wedi cefnogi CBSBG yn y cyfnod cyn lansiad Gwaithaur a bydd yn parhau i ddarparu cymorth busnes, gan gynnwys mynediad at raglenni dechrau a chyflymu busnes ar gyfer aelodau Gwaithaur fel un o fannau Cyswllt swyddogol TownSq. 

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼:

"Mae ein Tîm Busnes ac Arloesi wedi sicrhau y bydd y cyfleuster yn cynnig yr ansawdd a'r gwerth gorau i unrhyw fusnes sy'n chwilio am le i weithio ohono a thyfu. Bydd yn plethu â'n gwasanaethau mentrau eiddo a chymorth busnes eraill y mae'r tîm yn eu cynnig."

Mae TownSq wedi cefnogi miloedd o fusnesau bach i ddechrau, tyfu a chodi buddsoddiad. Ers ei sefydlu yn 2017, mae TownSq yn parhau i ledaenu ei ddull gweithredu cymunedol ledled y DU, gan feithrin gofod cefnogol i bobl a busnesau ffynnu.

Dywedodd cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TownSq, Gareth Jones, eu bod yn falch iawn o groesawu Gwaithaur i rwydwaith TownSq o weithfannau:

"Yn gynyddol rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w helpu i greu lleoedd sydd wedi'u hadeiladu ar wersi a phrofiadau ein tîm dros y 13 mlynedd diwethaf, ac mae Gwaithaur yn enghraifft wych o hyn - ein gofod cyswllt diweddaraf.

"Mae'r tîm ym Mlaenau Gwent wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwych ar gyfer sylfaenwyr, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid ym Mlaenau'r Cymoedd, ac mae Gwaithaur yn ased arall i helpu i gyflawni'r nod hwn.

"Ein gobaith yw y gall °ÄÃÅÁùºÏ²Ê¿ª½±¼Ç¼ elwa o'r dull gweithredu cymunedol hwn, gan ddod â busnesau newydd uchelgeisiol o'r un feddylfryd at ei gilydd i rannu mewnwelediadau a chefnogi datblygiad ei gilydd. Mae llawer i fod yn gyffrous amdano ar gyfer busnesau lleol ac rydym yn falch iawn o chwarae rhan yn llwyddiant y prosiect hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am Gwaithaur neu i archebu taith, ewch i , e-bostiwch goldworks@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch 01495 369704.

Town Square Spaces Ltd (TownSq)

Mae TownSq yn creu cymunedau ar draws y DU sy'n creu a thyfu menter trwy gydweithio, cefnogaeth ac arweinyddiaeth. Mae'r busnes yn gweithredu canolfannau yng Nghymru, Swydd Rydychen, Gorllewin Sussex, Dyfnaint, Henffordd a Llundain, a gall gefnogi pobl o’r adeg y maen nhw’n cael syniad hyd at sefydlu, buddsoddi a thwf. Mae'n rhedeg Startup Club, rhaglen cymorth ar-ôl-gwaith i helpu pobl sydd am ddechrau busnes ond nad ydyn nhw’n gallu rhoi'r gorau i'w swydd, yn ogystal â TownSq Accelerator, i fusnesau sy'n anelu at dyfu'n gyflym.

Cyllidwyr

Llywodraeth Cymru – Rhaglen Cymoedd Technoleg

Piler Cefnogi Busnes Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy W24: Canolfannau hyfforddi, cynigion cymorth busnes, deoryddion a chyflymwyr.