Cynhaliwyd Asesiad Digonolrwydd Chwarae yn 2016 a nododd yr angen i hyrwyddo chwarae yn yr awyr agored a mannau chwarae ym Mlaenau Gwent i鈥檙 gymuned.
Lluniwyd y llyfryn mewn partneriaeth 芒 chydweithwyr o wahanol adrannau o鈥檙 Awdurdod a sefydliadau allanol er mwyn adnabod safleoedd addas i hyrwyddo mewn llyfryn Chwarae.
Mae鈥檙 llyfryn yn adnabod safleoedd sy鈥檔 wych i chwarae ynddyn nhw ac mae hefyd yn cynnwys llawer o gynghorion yngl欧n 芒 chwarae, yn cynnig gwahanol syniadau ar gyfer chwarae ac yn darparu cysylltiadau at adnoddau eraill.
Lansiwyd y llyfryn yn Ysgol Gynradd Trehelyg, sydd eisoes wedi manteisio trwy fod staff wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol. Maen nhw wedi asesu eu hamserau cinio o dan y rhaglen Ysgolion Cyfle i Chwarae ac wedi gwneud newidiadau i鈥檙 ffordd maen nhw鈥檔 chwarae, gan gynnwys:
- Agor y rhwystrau ar y maes chwarae er mwyn i bob oedran allu chwarae gyda鈥檌 gilydd, yn hytrach na bod ar wah芒n
- Cyflwyno cwt adnoddau rhydd er mwyn galluogi plant i fod yn greadigol a dyfeisgar yn eu chwarae
Dywedodd y Cynghorydd John Mason, aelod Gweithredol dros Addysg:
鈥淢ae chwarae mor bwysig i blant, ac mae鈥檔 dda gweld cymaint o ddisgyblion Ysgol Gynradd Trehelyg yn dysgu sgiliau hanfodol trwy chwarae, tra鈥檔 cael hwyl ar yr un pryd. Bydd y llyfryn hwn yn galluogi ysgolion, grwpiau a theuluoedd ledled 澳门六合彩开奖记录 i wneud yr un fath.鈥
Bydd y llyfryn yn cael ei ddosbarthu ledled ysgolion, canolfannau Dechrau鈥檔 Deg, timau Teuluoedd yn Gyntaf a hefyd ar gael o CPI Blaenau.