澳门六合彩开奖记录

Gwasanaethau gofal cymunedol dan bwysau oherwydd galw uchel a phrinder staff

Mae cynghorau yng Ngwent yn hysbysu pobl sy鈥檔 derbyn gwasanaethau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol i ddisgwyl newidiadau posibl yn eu cymorth oherwydd y galw uchel ar wasanaethau a phrinder staff.

Mae cyfuniad o symud i Lefel Rhybudd 0 COVID-19, sydd wedi golygu ceisiadau ychwanegol am ofal cymunedol, ynghyd 芒鈥檙 angen i staff gymryd gwyliau yn ystod yr haf, wedi cynyddu pwysau ar wasanaethau gofal cymunedol ledled Cymru.

Mae cynghorau yng Ngwent yn rhoi blaenoriaeth i adnoddau o fewn timau ac yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio i drin prinder staff. Fodd bynnag, mae鈥檔 bosibl y bydd rhai newidiadau i鈥檙 gefnogaeth a gaiff pobl, a gellir gofyn i deuluoedd gynorthwyo darparwyr gofal cymunedol.

Dywedodd Damien McCann, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor 澳门六合彩开奖记录: 鈥淢ae ein timau ar draws Gwent yn wynebu pwysau difrifol. Mae galw cynyddol am ein gwasanaethau ac mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu hynny. Cafodd hyn ei gyfuno gydag absenoldeb tymor hir a thymor byr ymysg staff a swyddi gwag.

鈥淕wneir pob ymdrech i helpu gwasanaethau i ddal i redeg ond mae鈥檙 sefyllfa yn achosi pryder, ac mae rhai penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud bob dydd.

鈥淵 nod yw diogel aelodau bregus o鈥檔 cymdeithas drwy atal gwasanaethau rhag cyrraedd torbwynt.

鈥淕ofynnwn i unigolion, teuluoedd a gofalwyr i weithio mewn partneriaeth gyda ni ac i ddangos cydymdeimlad tuag at ein staff.鈥

Dywedodd Nick Wood, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol a Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: 鈥淩ydym yn gweithio gyda鈥檔 partneriaid mewn gofal cymdeithasol i ymchwilio pob cyfle i gefnogi pobl leol gyda鈥檜 hanghenion gofal parhaus, naill ai yn eu cartrefi ein hunain neu drwy鈥檙 rhwydwaith sylweddol o ddarparwyr gwasanaeth yn yr ardal.

鈥淩ydym yn sylweddoli鈥檙 heriau mawr sydd ar hyn o bryd gydag argaeledd staff gofal cartref a鈥檙 galw cynyddol am ofal a chymorth, a byddem yn annog pob cymuned i weithio gyda ni a鈥檙 timau gwasanaethau cymunedol.

鈥淢ae gwasanaethau dan bwysau dwys ac mae hyn yn debyg o barhau am y tymor byr i鈥檙 tymor canol wrth i ni weithio gyda phartneriaid gofal cymdeithasol i gynyddu capasiti yn y gymuned a galluogi newidiadau i鈥檙 ffordd y gaiff gwasanaethau eu cyflwyno wrth i ni gael adferiad o bandemig COVID-19.鈥

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae cyfleoedd swyddi ar gael ar draws y sector. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn
www.wecare.wales neu /en/home/.