澳门六合彩开奖记录

Fersiwn ddigidol a BSL o lyfr llwyddiannus gan Ofalwyr Ifanc a lansiwyd i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr!

Mae Gofalwyr Ifanc yn cyfrannu mewn ffordd anhygoel i gymdeithas, ac yng Ngwent rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth ar draws gwahanol feysydd yn eu rolau gofalu. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth 芒 gofalwyr, y Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol, y Cyngor Iechyd Cymunedol a'r Trydydd sector i gefnogi gofalwyr di-d芒l o bob oed.

I gydnabod Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 25 Tachwedd, mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gofalwyr Gwent yn falch o gefnogi achlysur lansio fersiwn ddigidol a BSL o lyfr llwyddiannus gan Ofalwyr Ifanc 鈥楳ae Gofalu yn C诺l鈥.

Aethpwyd ati ar y cyd i weithio gyda Petra Publishing a Cyngor Cymru i Bobl Fyddar i greu鈥檙 fersiynau hyn i gyrraedd mwy o ofalwyr ifanc ar draws ein rhanbarth.

*** Gellir prynu cop茂au caled o'r llyfr gan Petra Publishing www.petrapublishing.org ***

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: 鈥淩wy鈥檔 falch iawn o gefnogi lansiad y fersiynau ar-lein 鈥淢ae Gofalu yn C诺l鈥 sydd bellach yn cynnig Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i helpu gofalwyr byddar ifanc i fwynhau鈥檙 stori hyfryd hon. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfraniad gofalwyr ifanc a'u caredigrwydd a'u hymdrech i gefnogi aelod o'u teulu yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn fawr.

Meddai Gaye Hampton, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar Mae 鈥樷橫ae Gofalu'n C诺l" yn llyfr hyfryd ac roeddem mor falch ein bod wedi cael cais i greu鈥檙 BSL i gyd-fynd 芒鈥檙 stori. Mae鈥檔 gyfle gwych i ofalwyr ifanc sy'n fyddar, allu gweld a deall nad ydyn nhw ar eu pennau'u hunain."

Mae'r llyfr hwn, a ysgrifennwyd gan ofalwyr ifanc eu hunain, yn seiliedig ar brofiadau bywyd gofalwyr ifanc go iawn. Mae'r llyfr wedi'i osod mewn jyngl lle mae Jack sy'n barot, yn dod ar draws ambell i anffawd wrth ofalu am ei chwaer fach Thelma a cheisio'i hamddiffyn. Mae'r fath emosiynau, sef cariad, gofal, perygl, derbyn dewrder a chyfeillgarwch yn rhoi hyder i eraill yn y jyngl gefnogi ei gilydd a phrofi mai nad nhw yn unig sy'n gofalu, a bod bod yn wahanol yn gwbl anhygoel.

Ychwanegodd Tracy Wallbank, Petra Publishing 鈥樷橰oedd yn fraint i Petra Publishing fod yn rhan o ledaenu neges mor bwysig am ofalwyr ifanc. Pleser oedd gweithio gyda'r bobl ifanc, ac nid oedd bob amser yn hawdd heb gyswllt wyneb yn wyneb. Gobeithiwn y bydd y canlyniad terfynol yn lledaenu'r neges ymhell ac agos. Nid ydych chi ar eich pen eich hun, a gofalu yw'r hyn sy'n ein gwneud ni'n arbennig.

Roedd y prosiect hwn yn wirioneddol ysbrydoledig ym mhob ffordd oherwydd, yn ogystal 芒 gweithio gyda鈥檙 gofalwyr ifanc i ysgrifennu鈥檙 llyfr stori, cawsom y pleser hefyd o weithio ochr yn ochr 芒 dau gyfieithydd trwm eu clyw o Gyngor Cymru i Bobl Fyddar, i gynhyrchu fersiwn ddigidol o'r stori gydag iaith arwyddion.

鈥淣id oes rhaid i chi fod yn ofalwr ifanc i fwynhau鈥檙 llyfr hwn. Gall unrhyw un ei ddarllen, gwrando arno neu ei weld, ac mi fydd yn eich helpu i feddwl am ofalwyr ifanc鈥

Dywedodd Naheed, Arweinydd y Rhaglen Gofalwyr Rhanbarthol 鈥淢ae Gofalwyr Ifanc wedi bod yn rhyfeddol wrth ysgrifennu'r llyfr hwn. Stori fendigedig a thwymgalon gyda lluniau lliwgar. Stori gyda gwersi bywyd cudd yn cyfleu neges ystyrlon. Mae gofalu wir yn c诺l.! 鈥

Gellir cael hyd i fersiynau digidol a BSL o 'Mae Gofalu yn C诺l' trwy'r cod ar y llyfr neu trwy gyrchu cyfrif YouTube Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent - YouTube