澳门六合彩开奖记录

Dull gofalus o ddiogelu rhag y coronafeirws i barhau

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi yfory y bydd Cymru'n parhau i lacio鈥檔 raddol rhai o fesurau diogelu鈥檙 pandemig sy'n weddill.

O ddydd Llun ymlaen, ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mwyach yn 么l y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus.

Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau. Bydd taliad hunanynysu o 拢500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.

Fodd bynnag, bydd dau amddiffyniad cyfreithiol allweddol yn parhau ar waith gan fod achosion o'r coronafeirws wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi'u hysgogi gan is-deip BA.2 o'r amrywiolyn Omicron.

Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau鈥檙 coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 14 Ebrill, pan fydd y mesurau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu.