澳门六合彩开奖记录

Disgyblion yn mwynhau Bwyd a Hwyl

Mae pedair ysgol ym Mlaenau Gwent wedi cynnal rhaglen Bwyd a Hwyl arall lwyddiannus, gan gynnig gweithgareddau corfforol a phrydau a snaciau iach i鈥檞 disgyblion am 12 diwrnod yn ystod gwyliau鈥檙 haf.

Cymerodd tua 220 o blant ran yn y rhaglen eleni. Yr ysgolion a gymerodd ran oedd Ysgol Gynradd Gatholig yr Holl Seintiau, Ysgol Gynradd Willowtown, Ysgol Gynradd Glanhywi a Chymuned Ddysgu Abertyleri.

Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen seiliedig mewn ysgolion sy鈥檔 darparu prydau a snaciau iach yn ogystal ag addysg am faeth, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau鈥檙 haf. Cyllidir y cynllun gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a鈥檌 chydlynu gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Cyflwynwyd Bwyd a Hwyl i helpu plant gyda鈥檜 hiechyd a鈥檜 lles meddyliol yn ystod gwyliau ysgol. Mae rhai plant yn profi arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg ysgogiad deallusol, a geir fel arfer gan yr ysgol neu weithgareddau cyfoethogi teuluoedd.

Eleni mwynhaodd y disgyblion weithgareddau鈥檔 amrywio o wersi coginio, hyfforddiant cymorth cyntaf gan Ambiwlans Sant Ioan a, drwy weithio gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, lu o weithgareddau chwaraeon yn cynnwys rygbi, Taekwondo, criced, dawns, p锚l-rwyd a sglefrfyrddio. Caiff rhieni, brodyr a chwiorydd hefyd eu gwahodd i fynychu unwaith yr wythnos, sy鈥檔 galluogi staff i gysylltu gyda theuluoedd i ddysgu sgiliau newydd iddynt tebyg i goginio, gwella eu hiechyd a鈥檜 llesiant eu hunain a rhoi cefnogaeth hollbwysig i deuluoedd yn ystod gwyliau鈥檙 haf.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg:

鈥淏u Bwyd a Hwyl yn llwyddiant enfawr ym Mlaenau Gwent, gyda dros fil o blant wedi cael budd o鈥檙 rhaglen ers 2018.

鈥淢ae ansicrwydd bwyd yn broblem gynyddol ym Mhrydain ac ar draws Prydain. Yn ystod gwyliau ysgol gall rhai teuluoedd ei chael yn anodd fforddio neu gyrchu bwyd sy鈥檔 rhoi diet gytbwys iach. Mae rhai plant hefyd yn profi arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg ysgogiad deallusol, a geir fel arfer gan ysgolion neu weithgareddau cyfoethogi teuluoedd, a gall hyn gyfrannu at ehangu鈥檙 bwlch cyrhaeddiad.

鈥淢ae llawer o fanteision i gyflwyno Bwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent a ledled Cymru. Mae鈥檙 cynllun yn annog plant i fod yn fwy egn茂ol dros yr haf, yn dysgu plant am wneud dewisiadau iachach yng nghyswllt bwyd a diod, ac felly yn gwella diet a llesiant plant.

鈥淢ae鈥檙 plant yn mwynhau鈥檙 cynllun yn fawr iawn ac mae鈥檔 ddechrau gwych i鈥檞 gwyliau haf. Rydym yn ddiolchgar iawn i staff yr ysgolion sy鈥檔 rhoi eu gwyliau i redeg a gweithio yn y cynllun ac i benaethiaid yr ysgolion am eu cefnogaeth barhaus yn cynnal y cynllun. Mae鈥檙 rhaglen yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn gyda mwy o ysgolion yn ymuno ar gyfer 2024.鈥