Cafodd adroddiad yn cyflwyno鈥檙 strategaeth y bydd y Cyngor yn ei defnyddio i ymateb i鈥檙 pandemig Covid-19 i gefnogi sectorau busnes a gweithgaredd economaidd o fewn yr ardal ei drafod a鈥檌 argymell mewn cyfarfod Craffu.
Defnyddiwyd gwahanol ffynonellau data ar gyfer y Deyrnas Unedig a Chymru i ragweld y sefyllfaoedd achos gwaethaf o sut y bydd yr heriau presennol gyda鈥檙 pandemig yn effeithio ar weithgaredd economaidd. Felly, mae鈥檙 Cyngor wedi ystyried nifer o gynlluniau i gefnogi busnesau a dylanwadu ar y gwaith adferiad economaidd:
Rhaglen wedi ei thargedu o gyngor technegol ar weithgynhyrchu, buddsoddiad a sgiliau adeiladu
Rhaglen sgiliau digidol ar draws pob sector
Cefnogaeth cadwyn gyflenwi, ynghyd 芒 safleoedd busnes newydd a gwell
Cefnogaeth benodol ar gyfer cwmn茂au twf ac ymchwil a datblygu ym Mlaenau Gwent
Mynediad i gynlluniau ar gyfer hyfforddiant cysylltiedig 芒 gwaith 么l-addysg i rai 18-24
Adeiladu鈥檙 economi sylfaen gyda chaffael lleol
Lledaenu hygyrchedd drwy ddatrysiadau trafnidiaeth arloesol/cynaliadwy
Galluogi mwy o fusnesau newydd yn arbennig yng nghanol trefi gyda phresenoldeb ar-lein o鈥檙 dechrau cyntaf
Cynnydd gyda phrosiectau sylweddol tymor hirach fel angorau i wynebu鈥檙 dyfodol ar gyfer buddsoddiad i Flaenau Gwent
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol 澳门六合彩开奖记录:
鈥淐afodd y pandemig Covid effaith fawr ar yr economi a busnesau a bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn cyflwyno heriau pellach ond mae鈥檔 rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae鈥檙 Cyngor wedi ailwampio rhai o鈥檙 cynlluniau y mae鈥檔 mynd 芒 nhw rhagddynt i gefnogi busnes a chyflogaeth o fewn yr ardal. Mae busnesau wedi llwyddo i fasnachu drwy鈥檙 cyfnod clo, fodd bynnag fel mewn llawer o ardaloedd eraill, mae trosiant wedi bod yn is nag mewn rhannau eraill o鈥檙 Deyrnas Unedig. Rydym wedi defnyddio data i ragweld, cynllunio ac ystyried yr hyn y gall y Cyngor ei wneud i gefnogi鈥檙 cyfnod adfer a hefyd i adeiladu cadernid ariannol a helpu busnesau i addasu. Rydym yn annog busnesau i barhau ar agor. Os ydych angen cymorth a chyngor busnes, cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Busnes ac Arloesedd os gwelwch yn dda.鈥
Manylion Cyswllt T卯m Busnes ac Arloesedd:
E: Business@blaenau-gwent.gov.uk
Ff: 01495 355700
Gellir gweld yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen ddilynol:
http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/documents/s5837/Report.pdf?LLL=0