澳门六合彩开奖记录

Cyngor i Safleoedd gyda Thrwydded Alcohol cyn ail-agor arfaethedig ardaloedd awyr agored ddydd Llun 26 Ebrill 2021.

Disgwylir y bydd lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghymru o ddydd Llun 26 Ebrill. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau鈥檙 gofynion hyd yma, ond maent yn debyg o fod yn wahanol i ofynion yfed awyr agored blaenorol.

Os mai dim ond gwerthu ar y safle yn unig y mae trwydded safle yn ei ganiat谩u, mae Deddf Busnes a Chynllunio 2020 wedi llacio鈥檙 gyfraith i ganiat谩u gwerthu oddi ar y safle dros dro tan 30 Medi 2021.

Yn ychwanegol caniateir i chi gyflenwi alcohol mewn cynwysyddion agored a dosbarthu alcohol i gyfeiriad arall. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau felly os oes gennych unrhyw amheuaeth holwch ein T卯m Trwyddedu os gwelwch yn dda a byddant yn hapus i gynnig cyngor.

Nid yw鈥檙 llacio yn weithredol i safleoedd sydd 芒 thystysgrif safle clwb, felly, os mai dim ond gwerthiant yn y safle a dim ardal awyr agored sydd wedi鈥檌 gynnwys fel rhan o鈥檆h tystysgrif, efallai na allwch ddarparu alcohol i鈥檞 yfed yn yr awyr agored. Unwaith eto, holwch ein T卯m Trwyddedu os gwelwch yn dda.

Mae mwy o fanylion ar y llacio ar gael yn:

https://www.gov.uk/government/publications/guidance-for-temporary-alcohol-licensing-provisions-in-the-business-and-planning-bill/alcohol-licensing-guidance-on-new-temporary-off-sales-permissions

I gydymffurfio gyda gofynion gofod awyr agored, dylai unrhyw safle sy鈥檔 bwriadu defnyddio pebyll neu strwythurau awyr agored sicrhau eu bod o leiaf 50% ar agor pan g芒nt eu defnyddio.

Os ydych yn ansicr p鈥檜n ai all eich safle ail-agor yn ddilys o 26 Ebrill gallwch gysylltu 芒鈥檙 t卯m trwyddedu yn licensing@blaenau-gwent.gov.uk i gael mwy o gyngor.

Yn neilltuol, dylai Safle Clwb sydd 芒 Thystysgrif Safle Clwb (CPC) gysylltu 芒鈥檙 T卯m Trwyddedu i gadarnhau y gallant agor ar y dyddiad hwn neu os bydd yn rhaid iddynt aros am ail-agor dan do.