Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor 澳门六合彩开奖记录 wedi cymeradwyo ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cynnwys darpariaeth gofal plant yn Nhredegar/Cwm Sirhywi.
Cynhaliwyd ymgynghoria d, gyda鈥檙 holl brif randdeiliaid, yn gynharach eleni ar gynnig i ddatblygu ysgol 鈥榚gin鈥 cyfrwng Cymraeg gyda 210 lle gyda gofal plant yn yr un safle, yn Chartist Way.
Dangosodd yr ymgynghoriad fod cefnogaeth gref i ysgol Gymraeg newydd gan y rhai a gymerodd rhan.
Caiff yr ysgol newydd a鈥檙 ddarpariaeth gofal plant ar yr un safle eu datblygu yn unol 芒 safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn amodol ar brosesau cynllunio (ymgynghoriad a chymeradwyaeth). Mae鈥檙 Cyngor wedi sicrhau 拢6.2 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer yr adeilad drwy gynlluniau Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ysgol yn galluogi鈥檙 Cyngor i ateb y galw cynyddol am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y Cyngor:
鈥淢ae dymuniad cryf i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a鈥檙 cyfleoedd am addysg Gymraeg, ac yn wir rydym yn gweld galw cynyddol am leoedd ysgol a darpariaeth blynyddoedd cynnar yn lleol.
鈥淏ydd yr ysgol newydd hon gyda gofal plant ar yr un safle yn rhoi mwy o opsiynau i rieni pan fyddant yn dewis llwybr addysg ar gyfer eu plant, felly rwy鈥檔 falch fod y Pwyllgor Gweithredol wedi cydnabod hyn heddiw fel cam pwysig wrth gynyddu darpariaeth yma ym Mlaenau Gwent a rhoi mwy o ddewis i rieni.鈥
Byddai鈥檙 ysgol newydd yn dechrau fel 鈥榙arpariaeth egin鈥 gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu i gynnig darpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029. Fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad cysylltodd y Cyngor gyda chyrff llywodraethu, staff ysgol, plant a phobl ifanc, rhieni a phreswylwyr i gasglu sylwadau.