澳门六合彩开奖记录

Cyflogi plant – beth mae cyflogwr yn gyfrifol amdano?

Mae鈥檔 Fis Ymwybyddiaeth Cyflogi Plant, ac mae Cyngor 澳门六合彩开奖记录 yn atgoffa busnesau sy鈥檔 cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed eu bod angen trwyddedau i gydymffurfio gyda chyfraith cyflogaeth.

Mae Deddf Plant 1933 ac is-gyfreithiau聽 awdurdodau lleol yn llywodraethu cyflogi plant oedran ysgol i sicrhau y caiff gweithwyr ifanc eu diogelu, eu trin yn deg a鈥檜 bod yn gwybod am eu hawliau.

Mae awdurdodau lleol ar draws Prydain yn ystod mis Ebrill bob blwyddyn yn rhoi sylw i鈥檙 gyfraith yng nghyswllt plant o oedran ysgol gorfodol sy鈥檔 gweithio鈥檔 rhan-amser drwy: ddosbarthu posteri a thaflenni mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau siopa; cyflwyniadau ac adnoddau ar gyfer ysgolion a mudiadau yn ogystal 芒 chysylltu 芒 chyflogwyr.

Yn ystod un Mis Cyflogi Plant ymwelwyd 芒 1394 o gyflogwyr ac allan o 1092 o blant y cawsant eu canfod yn gweithio, roedd 541 ohonynt yn cael eu cyflogi yn anghyfreithlon, yn bennaf heb y drwydded cyflogi (gwaith) angenrheidiol. Nid oedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gwybod am y ddeddfwriaeth am gyflogi plant oedran ysgol a鈥檙 gofyniad cyfreithiol i gael trwydded.

Beth mae鈥檙 gyfraith yn ei ddweud?

Mae鈥檙 gyfraith yn caniat谩u i berson ifanc gael eu cyflogi o 14 oed, ond gall awdurdodau lleol ganiat谩u cyflogi person ifanc o 13 oed. Mae鈥檙 gyfraith yn nodi鈥檙 oriau a ganiateir, y mathau o gyflogaeth a鈥檌 gwneud yn hanfodol i gyflogwyr gael trwydded ar gyfer gweithwyr oedran ysgol. Mae鈥檔 cynnwys hawliau鈥檙 gweithiwr a chyfrifoldebau y cyflogwr. Mae cyflogwyr syn torri鈥檙 ddeddfwriaeth hon yn rhoi diogelwch pobl ifanc mewn risg a gallant wynebu dirwyon hyd at 拢1,000.

Mae鈥檔 ffaith drist fod yr 541 hynny (tua 38%) yn fwy tebygol, heb gael eu cynnwys o fewn unrhyw fath o yswiriant, pa bynnag bolis茂au sydd gan y cyflogwr mewn grym.

Dywedodd y Gymdeithas Yswirwyr Prydain, lle mae cyflogwr yn torri cyfraith neu reoliad, byddai unrhyw ddigwyddiad fel arfer yn gwneud y polisi yswiriant yn annilys. Mae鈥檔 rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod wedi cyflawni鈥檙 holl ymrwymiadau cyfreithiol a hefyd yn gwybod am unrhyw risgiau ac unrhyw weithdrefnau diogelwch eraill angenrheidiol cyn y cyflogant blentyn.

Felly byddai torri unrhyw gyfraith statud neu reoleiddiad yn ymwneud 芒 chyflogi plant oedran ysgol (ac mae dros 200 o gyfreithiau neu reoliadau o鈥檙 fath) yn gwneud y polis茂au yswiriant a all fod gan y cyflogwr yn annilys.

  • Cafodd un disgybl oedran ysgol ei losgi鈥檔 ddifrifol iawn pan oedd yn gweithio mewn cegin. Roedd yn cael ei gyflogi鈥檔 anghyfreithlon ac nid oedd ganddo drwydded. Nid oedd yn dod o fewn yswiriant y cyflogwr ac felly ni chafodd unrhyw iawndal am ei anafiadau. Torrwyd nerfau a gewynnau llaw bachgen arall pan lithrodd a syrthio pan oedd yn dosbarthu llaeth. Roedd hefyd yn cael ei gyflogi鈥檔 anghyfreithlon a heb drwydded.

Anafiadau yn y gweithle:

Mae nifer y plant a鈥檙 bobl ifanc a gaiff eu hanafu bob blwyddyn yn y gweithle yn mynd heb ei adrodd i raddau helaeth, yn arbennig os c芒nt eu hanafu tra c芒nt eu cyflogi鈥檔 anghyfreithlon. Mewn blynyddoedd diweddar bu achosion o fachgen 15 oed yn colli bysedd ei law mewn peiriant gwneud selsig, collodd merch 14 oed flaenau ei bysedd mewn tafellwr llysiau, lladdwyd bachgen 13 oed pan oedd yn gwneud ei rownd bapurau a cafodd llaw bachgen 10 oed ei dal mewn gwasg argraffu ddiwydiannol.

Oriau Gwaith:

Canfuwyd fod plant 15 a 16 oed yn gweithio tan 2am a 3pm (yn casglu gwydrau mewn clwb nos ac yn gweithio mewn cadwyn bwyd cyflym). Gwelwyd fod llawer o blant yn dechrau gwaith rhwng 5.30am a 6.30am (yn dosbarthu papurau newydd). Bydd gweithio ar yr adegau hyn yn effeithio ar addysg y plentyn ac mae鈥檔 anghyfreithon.

Beth yw鈥檙 swyddi poblogaidd?

Yn 么l ymchwil, 鈥渞ownd聽 bapur yw鈥檙 swydd fwyaf poblogaidd ar gyfer bron hanner y plant (43%), a dilynir hynny gan weithio mewn siop (18%)鈥. Swyddi poblogaidd eraill yw: gweini ar fyrddau a/neu olchi llestri mewn caffes a bwytai; gweithio mewn salonau trin gwallt.

Pa fathau o swyddi na all plant eu wneud?

Gweithio mewn cegin, mewn garej, ar safle adeiladu, mewn ffatri, mewn gwerthiant ff么n a gwerthu alcohol heb oruchwyliaeth.

Mae tua 200 o ddeddfau a rheoliadau ar gyflogi plant.

Mae rhai ohonynt bron yn 100 oed. Gellir erlyn a dirwyo cyflogwyr sy鈥檔 torri鈥檙 rheoliadau.