澳门六合彩开奖记录

‘Cartref am byth’: Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn annog rhagor o Gymry i ystyried mabwysiadu.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant h欧n yng Nghymru barhau i chwilio am eu 鈥榗artref am byth鈥.

Mae NAS yn datgelu ystod o fideos addysgol i fynd i'r afael 芒 chamsyniadau am fabwysiadu a chynorthwyo'r rhai sy'n teimlo efallai nad ydynt yn gymwys i fabwysiadu.

Yr wythnos hon, nod NAS yw ail-lunio barn y cyhoedd trwy chwalu hen fythau a chyflwyno profiadau go iawn.

Mae nifer o fabwysiadwyr o Gymru wedi ymuno 芒'r fenter hon, gan ymddangos mewn fideos ac ysgrifennu blogiau i ledaenu ymwybyddiaeth. Mae rhieni sy鈥檔 mabwysiadu siblingiaid o Wasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru (SEWAS) yn esbonio pam y gwnaethant gymryd rhan:

鈥樷橫ae fy mhartner a minnau bob amser wedi dweud y byddem yn ymddiried yn y broses fabwysiadu. Ni fyddem yn dewis ein plant, ond byddent yn ein dewis ni. Saith mlynedd yn 么l fe wnaethom dderbyn y pariad sibling cyntaf a gynigiwyd i ni gan SEWAS. Mae ein teulu yn fwy cyflawn nawr nag y bu erioed - ni fyddem yn dymuno iddo fod unrhyw ffordd arall! Diolch i SEWAS am ein helpu i ddod o hyd i鈥檔 darnau coll.鈥欌

Yn ogystal 芒 rhannu straeon mabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wedi bod yn cynyddu gwybodaeth am fabwysiadu gyda chymunedau ledled y DU, trwy eu podlediad gwobrwyog, Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu.

Canmolwyd y ddwy gyfres o鈥檙 podlediad dwyieithog, a oedd yn cynnwys straeon gan saith teulu mabwysiadol ochr yn ochr 芒 phennod arbennig, a gynhyrchwyd ac a gyflwynwyd gan bobl ifanc a fabwysiadwyd, am ei olwg onest ar fabwysiadu.

Eglurodd Tasha, athrawes a fabwysiadodd ddau sibling ag anghenion dysgu ychwanegol drwy Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth Cymru ac a gymerodd ran yng nghyfres un o鈥檙 podlediad:

鈥淧an anfonais fy e-bost o ddiddordeb [i fabwysiadu], roedd fy nheulu鈥檔 dweud wrthyf na fyddai 鈥榥hw鈥 eisiau fi oherwydd fy mod yn sengl, mae gen i swydd amser llawn, mae gen i gi. Meddyliais 鈥楶am na fydden nhw eisiau fi?鈥

鈥淔e es i mewn gyda meddwl agored iawn. Yn amlwg roedd yn rhaid i mi ystyried bod fy nheulu yn byw 2 陆 awr i ffwrdd, fodd bynnag, roeddwn yn ymwybodol bod llawer o blant h欧n (oedran ysgol i fyny) yn aml yn aros hiraf鈥.

鈥淩oedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn wych, ac roeddwn i wedi bod mewn cysylltiad 芒鈥檙 teulu maeth. Felly, pan ddes i 芒 nhw adref, wnes i ddim rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 drefn roedden nhw wedi鈥檌 hadeiladu yn nh欧 eu gofalwr maeth. Fe wnes i hyd yn oed barhau gyda鈥檙 ysgytlaeth siocled cyn mynd i鈥檙 gwely gan mai dyna wnaeth eu gofalwyr maeth鈥.

鈥淩oedd fy merch yn eithaf sensitif i rai pethau, ac fe wnaethon ni weithio arnyn nhw gyda hi dros amser. Roedd sylwi ei bod yn dechrau rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 sbardunau hyn yn arwydd i mi ei bod yn mynd i鈥檙 cyfeiriad cywir.鈥

Pob cwr o Gymru yn cymryd rhan

Bydd gweithgarwch rhanbarthol ledled Cymru yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu a'r wythnosau nesaf.

Ddydd Mercher 18 Hydref, bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cwblhau eu taith gerdded 402 milltir o hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda digwyddiad arbennig yng Nghlwb P锚l-droed Wrecsam gyda鈥檙 maer.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin hefyd yn cynnal taith gerdded, gyda phob cyfranogwr yn cerdded mewn parau neu grwpiau, i gynrychioli'r ffaith bod grwpiau o siblingiaid yn aros.

Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu鈥檙 Fro, y Cymoedd a Chaerdydd, a Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal nosweithiau gwybodaeth ac yn rhannu cynnwys chwalu mythau i helpu darpar rieni mabwysiadol i ddysgu mwy am y broses fabwysiadu.

Mae Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru yn cyhoeddi blog am brofiadau bywyd go iawn o fabwysiadu, tra bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn arddangos cyfres o ffilmiau byr, yn cynnwys mabwysiadwyr a pherson mabwysiedig.

Ochr yn ochr 芒 hyn i gyd bydd gweithwyr proffesiynol mabwysiadu o bob rhan o Gymru yn dod at ei gilydd i ddathlu鈥檙 negeseuon cadarnhaol a鈥檙 gwaith sydd wedi bod yn digwydd i wella gwasanaethau ers i NAS ddod i fodolaeth.

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru:

鈥淩ydyn ni鈥檔 gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy鈥檔 meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy鈥檔 cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. Ein nod yw ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu gr诺p o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn h欧n. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.鈥

Am fwy o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru: