澳门六合彩开奖记录

Ardal Dim Galw Diwahoddiad Cyntaf Glynebwy

Nod yr ardal yw gostwng nifer digwyddiadau troseddu carreg drws ac atal masnachwyr twyllodrus fel gweithwyr twyllodrus, swyddogion ffug, lladron tynnu sylw a chasglwr elusen sgam rhag galw mewn cartrefi yn yr ardal.

Caiff hysbysiadau dim galw diwahoddiad eu rhoi ar bostion lamp a rhoddir sticer ffenestr a llyfryn cyngor i bob cartref yn dweud wrth breswylwyr sut i drafod galwyr diwahoddiad. Nod yr ardal yw annog troseddwyr carreg drws a galluogi鈥檙 heddlu a Safonau Masnach i鈥檞 trin lle bynnag sy鈥檔 bosibl. Aiff llawer o ddigwyddiadau troseddwyr carreg drws heb hysbysu鈥檙 awdurdodau a gobeithir y bydd rhoi rhifau cyswllt yr heddlu a Chyngor Defnyddwyr ar yr hysbysiadau ar y postion lamp yn annog preswylwyr i roi adroddiad am unrhyw ddigwyddiadau.

Ymgynghorwyd a phreswylwyr Cilgant Bevan am yr ardal ac roedd y mwyafrif llethol o blaid ei sefydlu, gyda llawer o breswylwyr yn dweud iddynt dderbyn nifer fawr o ymweliadau gan alwyr diwahoddiad yn y gorffennol ac yn pryderu am droseddwyr carreg drws.

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd:

鈥淢ae鈥檔 hysbys iawn fod masnachwyr twyllodrus yn targedu鈥檙 henoed a鈥檙 bregus. Yn aml mae cysylltiad rhwng masnachwyr twyllodrus a lladron tynnu sylw gan roi gwybodaeth i鈥檞 gilydd am dargedau posibl. Mewn ymdrech i gynyddu effeithlonrwydd atal troseddau carreg drws, mae adran Safonau Masnach Cyngor 澳门六合彩开奖记录 a Heddlu Gwent yn cyflwyno鈥檙 ardal yng Nghilgant Bevan fydd yn rhoi diogeliad ychwanegol i breswylwyr yr ardal鈥.